Coroni Heddwch

Ciw-restr ar gyfer Y Frenhines

(Y Plentyn) A fydd hi'n hir yn dyfod?
 
(Y Wyryf) Dyn ieuanc, yn lluddedig a gwael, a gwisg milwr amdano,
(1, 0) 130 Wele fi'n dyfod o alltudiaeth.
(1, 0) 131 O, chwi, a fu bobl i mi, ai eich ewyllys i gyd yw i mi eto gymryd yr orsedd?
(Y Dyrfa) Ie.
 
(Y Tad) Hebot ti, nid ŷm ni ddim, ac nid yw gwaith ein dwylaw ond llwch.
(1, 0) 136 O, fy mhobl, oni fynnwch chwi gofio?
(1, 0) 137 Oni bu hyno'r blaen?
(1, 0) 138 Ai rhaid byth brynu doethineb â'r mawrbris hwn o boen?
(1, 0) 139 Hebof i, nid ŷch chwi ddim, a llwch yw gwaith eich dwylaw.
(1, 0) 140 Paham, gan hynny, y mae wanned eich ffyddlondeb?
(1, 0) 141 Paham y gwrthodir fy llywodraeth i?
(1, 0) 142 Paham y gyrr dynion fi o'u plith─i ddim ond dysgu eilwaith faint eu hangen amdanaf?
(Y Tad) O, Frenhines dawel, fwyn, dyma ni'n dysgu unwaith eto.
 
(Y Wyryf) O dyro i ni eto'n ôl y dyddiau hyfryd hynny yr oedd eu gwynfyd yn fwy nag a wyddem.
(1, 0) 146 Y cwbl sydd eiddof, yr wyf yn ei roddi i chwi.
(1, 0) 147 Dyma fy rhodd: bydd i'r mab ei ran o lafur ei dad, a dynion yn medi lle bu'r hau.
(1, 0) 148 Caiff y mab sychu dagrau'r fam, a hithau bwyso ar ei fraich gadarn.
(1, 0) 149 Cyferfydd y wyryf â'i chariad, a cherddant law yn llaw yn harddwch y byd.
(1, 0) 150 Chwery'r plentyn wrth y drws, ac ni syrth ar ei chwarae mwy ddim o'r cysgod na ŵyr ef amdano.
(1, 0) 151 Yn llawen y cymeraf yr Orsedd.
(Y Gŵr Ieuanc) Felly o'r diwedd, dyma ben ar fy nhasg innau.
 
(Y Gŵr Ieuanc) Felly o'r diwedd, dyma ben ar fy nhasg innau.
(1, 0) 155 Tasg a wnaed yn dda.
 
(1, 0) 157 Yn alltud hiraethus am fy lle fy hun, gan adnabod eich calonnau, gwyddwn eich bod yn y terfysg yn sibrwd fy enw i.
(1, 0) 158 Ac oblegid eich angen mawr, cyfododd y Gŵr Ieuanc a daeth i'm ceisio.
(1, 0) 159 Bellach, O fy mhobl, fel y rhoddwch i mi groeso, cofiwch mai rhodd y Gŵr Ieuanc yw'r rhodd yr wyf yn ei dwyn i chwi.
(1, 0) 160 Na threigled hynny gyda'r pethau a anghofir.
(1, 0) 161 Daeth ef i'm ceisio ar hyd ffordd gofidiau, lle y mae bob amser waed hyd y cerrig.
(Y Tad) O, Ŵr Ieuanc o'r ffordd chwerw, pa beth a rydd yr hen wŷr iti, fel y deui yn dy ôl o'th hynt?
 
(Y Gŵr Ieuanc) Pe mynnech ganiatau i mi ewyllys fy nghalon, rhoddwch i mi wybod na orfydd byth i'r plentyn hwn gerdded y ffordd a gerddais i, rhoddwch i mi wybod nad rhaid byth mwy i ferched wylo am ddynion a fo marw cyn eu hamser, rhoddwch i mi wybod wneuthur ohonof yn wir y dasg a osodasoch arnaf, rhoddwch i mi wybod mai dyma ddiwedd hirfaith alanas goch y byd.
(1, 0) 185 Lleferwch!
(1, 0) 186 A ganiatewch chwi iddo ewyllys ei galon?
(1, 0) 187 A ddiorseddir fi gan air cynddaredd dyn?
(1, 0) 188 Ai rhaid dyfod un arall eto ryw ddydd ar hyd y ffordd drist i'm dwyn i yn f'ôl?
(1, 0) 189 Ai myfi, yn wir, yw Brenhines y Bobl?